Noson Ffilm Gynta’r Orsaf

Dangos ffilm a wnaed yn Llandwrog ym 1953

angharad tomos
gan angharad tomos

Roedd pob sedd wedi ei chymryd yn Yr Orsaf ar 25 Dachwedd wrth inni fwynhau noson gofiadwy gyda’n ser sgrin ein hunain. Ym 1953, sgwennodd John Gwilym Jones y sgript ar gyfer ffilm Gymraeg ‘A Letter From Wales’, yn disgrifio bywyd yng Nghymru. Seiliodd John Gwilym y ffilm ar ei atgofion ohono yn blentyn yn Cae Doctor, Llandwrog. Roedd teulu Cefn Hengwrt yn perthyn iddo, felly plant y fferm honno – Evie Wyn, Olga, Vera a Johnie a ddefnyddiwyd yn y ffilm.

Yn 1983, gwnaeth Wil Aaron raglen am y ffilm, ‘Llythyr o Gymru’ yn dangos teulu Cefn Hengwrt yn gwylio’r ffilm 30 mlynedd yn ddiweddarach. Yn Yr Orsaf, roedd Wil yn bresennol yn holi dau o ser y ffilm, Evie Wyn ac Olga.

 


Yn ystod y noson, dangoswyd llun o blant Ysgol Llandwrog o’r cyfnod, ac roedd mwy nac un ohonynt yn bresennol yn y gynulleidfa.

Er iddi gymryd haf cyfan i wneud y ffilm, a’i fod yn strach ar y pryd, cytunodd pawb ei bod yn gofnod gwerthfawr o’r teulu  hwn, ac o gyfnod ac ardal arbennig iawn.

Yn gynnar yn 2020, bydd ffilm arall yn cael ei dangos yn Yr Orsaf, sef Yr Afon – ffilm o awdl Gerallt Lloyd Owen pan ennillodd ym 1975 yn Eisteddfod Bro Dwyfor a phlant Aelwyd Llandwrog wnaeth y ffilm ym 1976.