Llwyddiant i Dic Dalar Deg yn y sioe flodau

Mae Richard Jones wedi bod yn cystadlu yn sioe flodau Dyffryn Nantlle ers hanner can mlynedd.

Guto Jones
gan Guto Jones

Mae Richard Jones neu Dic Dalar Deg i’w ffrindiau wedi bod yn tyfu llysiau a blodau ar gyfer cystadlu yn sioe flodau Dyffryn Nantlle ers hanner can mlynedd.

Ar bnawn Gwener braf cyn y sioe daeth penllanw ar fisoedd o baratoi gofalus wrth i Dic gynhaeafu’r cynnyrch toreithiog sy’n ei ardd; yn letys, nionod o bob maint, tatws, cennin, tomatos, rhiwbob, betys, ffa dringo a Ffrengig ac yna ei gasgliad lliwgar hardd o flodau yn cynnwys y dahlias, chrysanthemums a’i hoff flodyn y gladioli.

 

Ddydd Sadwrn yn y sioe llwyddodd i gael 8 wobr gyntaf, 2 ail a 3 trydedd wobr am ei gynnyrch gardd anhygoel sy’n cael ei dyfu gyda chymorth tail o fferm leol a tomorite ynghyd â llawer o ymroddiad a gofal.

Ond beth am y blodau?….. Doedd dim lwc y tro hwn gyda’r Dahlias ond cafodd un ymgais llwyddiannus efo tri chawg sef tri blodyn o’r un math mewn cawg, ond bydd rhaid aros tan y Sioe Hydref ddiwedd y mis i gael gweld gwledd o chrysanthemums a fydd yn eu llawn gogoniant erbyn hynny.

Bydd Dic yn troi y tir ar ôl y diolchgarwch a’i adael i orffwys dros y gaeaf cyn ail afael ynddi ddechrau’r gwanwyn nesa a dechrau’r plannu unwaith eto tua mis Ebrill.

Cofiwch am y Sioe Hydref fydd yn cael ei gynnal yn y neuadd goffa ym Mhen y Groes ar ddydd Sadwrn y 26ain o Hydref lle bydd cyfle i chi arddangos eich cynnyrch gardd, blodau, coginio, gwaith llaw, gwaith coed/metel, ffotograffiaeth ynghyd ag adrannau i’r plant. Cysylltwch â Mrs Beti Jones, ysgrifennydd y sioe am fwy o wybodaeth.- 01286 660365 / cymdeithasgarddiodn@hotmail.co.uk

Dyma fideo o Dic yn paratoi yn ei ardd –

 

Dyma stori ar gyfer gwefan fro newydd DyffrynNantlle360. I rannu eich stori leol chi, y cam cynta yw cofrestru fel ‘brodor’ yma: https://360.cymru