LLEIDR!

Dal y lleidr fu yn poeni Penygroes ddiwedd Awst

angharad tomos
gan angharad tomos

Mae’r lleidr ddaru ymweld a Phenygroes ganol Awst yn y carchar, ac ni fydd yn dychwelyd i’r pentref.

Ganol Awst oedd hi, pan welwyd dyn dieithr yng ngerddi rhai o drigolion Ffordd Haearn Bach. Pan gafodd ei holi, atebodd (yn Saesneg) fod ganddo fodryb yn y stryd a defnyddiodd yr esgus hwn sawl gwaith.

Aeth o’r Fferyllydd, lawr Ffordd Haearn Bach ac i gyfeiriad Gwyddfor. Llwyddodd i ddwyn beic, stimmer, allweddi car a 2 lif gadwyn. Cawsom wybod yn y papur mai 20 oed o Oldham yw Liam Rain. Cafodd ddedfryd o 12 mis o garchar.