A Letter from Wales yn Yr Orsaf

gan Ben Gregory

Nos Lun nesaf bydd dangosiad arbennig o’r ffilm A Letter from Wales yn Yr Orsaf. Er gwaethaf y teitl, hon oedd un o’r ffilmiau cyntaf yn y Gymraeg (1953),  ar ôl y Chwarelwr (1935), Yr Etifeddiaeth (1949) a Noson Lawen (1950).

Yn ystod y noson bydd rhai o’r plant oedd yn y ffilm yn trafod eu profiad bron i 70 mlynedd yn ôl efo Wil Aaron. Plant Cefn Hengwrt, Llandwrog ydynt, Evie Wyn, Olga, Johnny a Vera. Roedd eu mam, Katie Wyn Jones yn enwog am y gwobrau a enillodd am ganu mewn eisteddfodau, gan gynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol. Unarddeg oedd Evie yn y ffilm, a bydd o ac Olga yn bresennol ar y noson.

Nid gormodiaeth yw dweud fod y diwydiant ffilm Cymraeg wedi dechrau yma yng Ngwynedd. Cyfarwyddwyd Y Chwarelwr gan Ifan ab Owen Edwards o Lanuwchlyn, gyda’r sgript gan John Ellis Williams o Flaenau Ffestiniog, lleoliad y ffilm. Sgriptiwyd Yr Etifeddiaeth gan John Roberts Williams o Eifionnydd, gyda’r ffotograffydd enwog Geoff Charles yn gweithio tu ôl y camera, yn ffilmio yn Llyn ac Eifionnydd.

Ysgrifennodd John Gwilym Jones o’r Groeslon y sgript ar gyfer Noson Lawen ac A Letter from Wales. Serenodd Meredydd Evans yn y gyntaf, gyda golygfeydd ym mhentref Y Parc ger Y Bala, ac ym Mangor. Cafodd llawer o A Letter from Wales ei ffilmio yn Llandwrog a’r arfordir agos.

Bydd Wil Aaron yn dangos ei ffilm ar y noson am y stori tu ôl y ffilm, gyda sgwrs gyda rhai o’r ser wedyn.

Tocynnau ar gael yn Yr Orsaf – nifer cyfynedig.