Gwrachod ardal Arfon

Efa Lois sydd wedi darganfod bod dwy wrach, yn ôl y chwedlau, yn dod o ardal Arfon. Bw!

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae’r arlunydd Efa Lois wedi bod yn ymchwilio i wrachod Cymru yn ddiweddar, ac mewn da pryd ar gyfer Nos Calan Gaeaf, dyma ffrwyth ei hymchwil i wrachod ardal Arfon.

*

Trwy gydol mis Hydref dwi wedi bod yn ymchwilio i wrachod Cymru. Dechreuodd y prosiect fel rhan o sialens #inktober, lle mae gofyn i rywun arlunio rhywbeth a’i bostio ar y cyfryngau cymdeithasol bob dydd ym mis Hydref. Roedden i am ymchwilio i wrachod Cymru gan fod menywod a chwedloniaeth Cymru yn themâu mawr yn fy ngwaith celf, a bod fy ymchwil ar gyfer Prosiect Drudwen wedi amlygu sawl chwedl am wrachod Cymreig i mi.

Ymchwiliais, a darganfod bod dwy wrach, yn ôl y chwedlau, yn dod o ardal Arfon.

Ganthrig y Wrach

Yn ôl rhai, roedd Ganthrig y Wrach yn trigo mewn ogof wrth ymyl cromlech yng nghreigiau Mur Mawr ym Mwlch Llanberis. Yn ôl y chwedlau mi fyddai hi’n bwyta ymenyddion y rhai oedd yn digon anffodus i’w chroesi.

Sali Minffordd

Roedd Sali Minffordd yn wrach a allai ragweld cynlluniau i’w niweidio. Penderfynodd criw o ddynion ei dwyn o flaen y llys yn yr Amwythig, ond gan ei bod hi wedi rhagweld hyn, achosodd y fath anghyfleustra i’r dynion fel yr anghofion nhw am eu cynlluniau ar ei chyfer.

Dwi wedi bod yn cyhoeddi ffrwyth fy ymchwil bob dydd ar fy nhrydar (@efalois) ac ar fy Instagram (@efalois). Gallwch weld y darluniau trwy edrych ar #GwrachodCymru a dwi wedi cynhyrchu print nifer cyfyngedig o fy narluniau o’r gwrachod.