Ffansi paned a chacen?

CFfI Dyffryn Nantlle yn cynnal bore coffi ar Ddydd Sadwrn y 5ed o Hydref.

Gwen Th
gan Gwen Th

☕️?☕️?

Mae CFFI Dyffryn Nantlle yn cynnal bore coffi ar Ddydd Sadwrn y 5ed o Hydref rhwng 10yb a 12yp yn Neuadd Goffa Penygroes. Bydd holl elw’r bore yn mynd tuag at fenter gymunedol Dyffryn Nantlle.

Dewch draw am sgwrs dros baned a chacen!

☕️?☕️?