Ffair Nadolig Penygroes

Cynhaliwyd y ffair am y 9fed tro

gan Ben Gregory

Ddoe cynhaliwyd 9fed Ffair Nadolig Penygroes. Trefnwyd gan griw yr Ŵyl Fai, mae’n parhau i dyfu, gyda dros 2 dwsin o stondinau yn gwerthu cynnyrch lleol, a channoedd yn dod trwy’r drws i brynu a chymdeithasu. Eleni am y tro cyntaf roedd llwyfan tu allan i’r Neuadd Goffa, gyda chôr Ysgol Bro Lleu, Seindorf Arian Dyffryn Nantlle, a band lleol Bwncath.