? Eisteddfod CFFI Cymru ?

Gwen Th
gan Gwen Th

Cynhaliwyd Eisteddfod Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru yn Neuadd William Aston, Wrecsam ar 30 Tachwedd. Bu cystadlu brwd gyda phob un o siroedd Cymru yn cystadlu yn ogystal ag aelodau o Glwb Ffermwyr Ifanc Dyffryn Nantlle.

Roedd Catrin Cwmbran yn aelod o barti Cerdd Dant Eryri ddaeth yn fuddugol ac roedd Catrin ynghyd a’i chwaer Elliw, Gwen Dolgynfydd a Glesni Bowness yn aelodau o gôr y Sir ddaeth i’r brig.

Cafodd Eryri lwyddiant mawr yn yr Eisteddfod gan ddod yn 2il ar ddiwedd y cystadlu gyda Chlwyd, y Sir westeiol yn cipio’r wobr gyntaf.

Llongyfarchiadau mawr i bawb ??✨