Cynllun Digidol Ysgol Nebo

O.P Huws yn cydweithio gyda ysgol Nebo

gan OP

Mae O.P. Huws llawer mwy cyfarwydd a Chyw iar, na Q.R.’s ond yn ddiweddar bu’n cyd weithio efo’r Athrawon a phlant yr Ysgol i greu QR i’w osod gerbron carreg cofeb newydd Mathonwy Hughes ar dir yr Ysgol. Hefyd gyda chymorth caredig oddi wrth Robat Antur Nantlle a Justin Gringo.  Cafodd  y garreg cofeb ei osod yn ddiweddar gan Ifan ac Idris yn garedig iawn.

Trwy ddefnyddio’ch ffon symudol ger y QR gallwch  gysylltu efo Nantlle.com a chael gwybodaeth am Mathonwy Hughes, fu’n gyn ddisgybl yn Ysgol Nebo.

Nid yw’r QR wedi ei osod ar y gofeb eto, ond mae’n rhan o gynllun rhwng yr ysgol a’r gymuned i ddod a sylw i enwogion, lleoliadau a llwybrau pwysig yn ardal yr Ysgol.