Codi Arian i Macmillan

Daeth y stryd i gyd i fore coffi Gwyneth Parry ar Ffordd Haearn Bach.

angharad tomos
gan angharad tomos

Diolch i Gwyneth Parry, Gwylan, Ffordd Haearn Bach, Penygroes, am drefnu bore coffi er mwyn Macmillan yn ei chartref. Daeth y stryd i gyd i’r bore coffi, a braf oedd cael paned a sgwrs (er gwaetha’r glaw!) Petaech eisiau cyfrannu, a heb gael cyfle i wneud hynny, mae croeso i chi anfon at Gwyneth. Codwyd dros £300 i’r achos clodwiw hwn.