Campweithiau y gwerinwyr a gwerinwragedd

Dr Ffion Eluned Owen a’r Ddarlith Flynyddol Llyfrgell Penygroes

gan Ben Gregory

Roedd dros 80 o bobl yn Neuadd Ysgol Dyffryn Nantlle neithiwr, i wrando ar Dr Ffion Eluned Owen yn rhoi y 52ain darlith flynyddol Llyfrgell Penygroes. “Sul, Gŵyl a Gwaith: Diwylliant Dyffryn Nantlle yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif” oedd y pwnc, o flaen y gynulleidfa fwyaf ers talwm.

Yn ystod y ddarlith siaradodd Ffion am gampweithiau cymunedol y gwerinwyr a gwerinwragedd lleol – y cymdeithasau a chlybiau, y gerddoriaeth a’r farddoniaeth, llenyddiaeth ac addysg, y seindorfau, clybiau drama a chwmni opera, gyda’r capeli a’r chwareli fel sylfaen i’r gweithgareddau.

Mewn tipyn dros awr enwodd Ffion gannoedd o gyfranwyr i’r diwylliant lleol – nid mor enwog a rhai o gewri’r ardal, ond wnaeth helpu i greu diwylliant bywiog a gwirfoddol, dros ddegawdau.

Mae darlith Dr Ffion ar gael o Lyfrgell Penygroes (£4), a bydd hi ar gael fel e-lyfr yn fuan.