Anthem newydd i Ysgol Rhostryfan

Ymwelodd y prifardd, Meirion Macintyre Huws, â disgyblion Ysgol Rhostryfan.

Guto Jones
gan Guto Jones

Ymwelodd y prifardd, Meirion Macintyre Huws, â disgyblion Ysgol Rhostryfan yn ddiweddar am sesiwn greadigol o farddoni.

Bu Mei Mac yn teithio o amgylch ysgolion yr ardal yn cynnal sesiynau, a chrëwyd anthem newydd yn y gweithdy gyda Rhostryfan.

Dyma ganlyniad gwaith y disgyblion –

YSGOL FACH A CHALON FAWR

Yng nghysgod clyd Moel Tryfan

Mae ysgol hapus werdd,

A’i llond o wŷn yn prancio

A dawnsio i nodau cerdd,

Lle lliwgar, prydferth fel y wawr

Hen ysgol fach a chalon fawr,

 

Dros bant a bryn a thros ylli

Rhowch ysgol Rhostryfan i mi

Drwy Gymru fynyddig, a’r gwledydd di-ri

Rhowch ysgol Rhostryfan i mi

 

O dan ei chloch mae bwrlwm,

Dychymyg, hwyl a gwaith,

Mae’n galon i’r gymuned

A dyfodol iach i’r iaith,

Pan af i bedwar ban y byd

Mi fydd hi’n gwmni i mi o hyd,

 

Dros bant a bryn a thros ylli

Rhowch ysgol Rhostryfan i mi

Drwy Gymru fynyddig, a’r gwledydd di-ri

Rhowch ysgol Rhostryfan i mi.

 

Dyma stori grëwyd gydag Ysgol Rhostryfan ar gyfer gwefan fro newydd DyffrynNantlle360. I rannu eich stori leol chi, y cam cyntaf yw cofrestru fel ‘brodor’ yma: https://360.cymru