Anrheg Nadolig Cynnar?

Fyddwch chi’n cymryd rhan yn yr Ymgyrch Bocsys Sgidia Dolig?

angharad tomos
gan angharad tomos

Falle ei bod braidd yn gynnar i chwilio am bapur lapio Nadoligaidd, ond dyna sydd angen ei wneud os am gymryd rhan yn Ymgyrch Bocsys Sgidia Dolig.

Ers blynyddoedd, mae pobl y dyffryn wedi arfer paratoi bocs Dolig ar gyfer Teams4U. Y syniad yw llenwi bocs sgidia efo anrhegion, a chaiff y bocs ei roi i blant bregus drwy ysgolion ac ysbytai a chartrefi plant.

Beth sydd ei angen?
Bocs sgidia wedi ei orchuddio efo papur Dolig.
Dewis ar gyfer pwy mae y bocs – Bachgen neu Ferch 3-5 oed, 6-11 oed neu 12+.
Syniadau beth i’w roi ynddo – brwsh a phast dannedd; brwsh neu grib ac addurdiadau gwallt; sebon a gwlanen ‘molchi; papur sgwennu; pensiliau; pinnau ffelt ac ati.
Hefyd tegannau meddal; gemau a phosau; yo-yo; offeryn cerdd bach; tryciau; ceir; doliau; peli; fferins; het/sgarff/ menyg; sannau neu ddillad isaf newydd.

Mae modd gwneud bocs Gofal Cartref – canhwyllau; offer coginio (dim cyllyll); bocsys bach plastig; sosban fach; pegiau dillad; lliain llestri lliwgar; brwsh gwallt; llestri plastig;
addurn Nadolig bach; sebon a chadachau llestri. Dewiswch o’r rhestr hon.

Yr unig reolau i’w cofio yw peidio cynnwys bwyd; meddyginiaeth; unrhyw eitemau yn gysylltiedig â rhyfel megis drylliau neu filwyr. Dim eitemau bregus chwaith yn cynnwys gwydr neu ddrychau, nac unrhyw hylif nac erosol. Dim eitemau peryglus, miniog, na dim nofelau.

PWYSIG: I dalu am gostau cludo, rhowch £2.50 efo bob bocs. Peidiwch a selio’r bocs.

Lle i fynd a nhw?
Y pwynt cludo yw Festri Capel Soar, Penygroes ar
Nos Wener, Tachwedd 1 (6-8pm)
Bore Sadwrn, Tachwedd 2 (10am -12) a
Bore Sadwrn, Tachwedd 9 (10am – 12)

Am wybodaeth bellach, cysylltwch ag Alice ar 01286 880814, a diolch iddi a’r criw am ei gwaith gwerthfawr.