Sul, Gwyl a Gwaith

Holi Ffion Eluned Owen cyn darlith llyfrgell Penygroes.

gan Ben Gregory

Mae Ffion Eluned Owen yn siarad nos Iau nesaf yn Darlith Llyfrgell Penygroes, cyfres o ddarlithoedd blynyddol sy’n mynd yn ôl i’r 60au. Siaradodd Ffion ar raglen Aled Huws (fan hyn awr i mewn y rhaglen) am ddiwylliant Dyffryn Nantlle. Gofnyom iddi am dipyn bach o gefndir.

Magu ac Addysg:

“Cefais fy magu yn nhopia pentref y Groeslon, gan fynychu Ysgol Gynradd Y Groeslon ac Ysgol Dyffryn Nantlle cyn mynd ymlaen i Brifysgol Aberystwyth yn 2009 i astudio am radd mewn Cymraeg a Daearyddiaeth. Ar ôl graddio yn 2012, arhosais ymlaen yn yr Adran Gymraeg i astudio am radd meistr MPhil a oedd yn edrych ar ymateb y beirdd i’r newidiadau ieithyddol yng nghymunedau gwledig Cymru, cyn aros ymlaen eto yn yr Adran i astudio ar gyfer fy ngradd PhD. Fe wnes i raddio gyda’m doethuriaeth yn ystod yr haf eleni, a oedd yn golygu fy mod wedi bod yn fyfyrwraig yn Aberystwyth am 10 mlynedd! Dwi wedi bod yn lwcus iawn i fwynhau fy holl amser mewn addysg, yn enwedig fy ngwaith ymchwil dros y blynyddoedd diwethaf.”

Pwnc doethuriaeth

“Teitl fy noethuriaeth yw: ‘’Sgwennu a Chanu, Sul, Gŵyl a Gwaith’: Golwg ar ddiwylliant llenyddol a cherddorol Dyffryn Nantlle yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif. Yn fras iawn, astudiaeth o weithgarwch diwylliannol yr ardal sy’n canolbwyntio ar gloriannu cyfraniad y gwerinwyr diwylliedig a digoleg, y rhai a fu’n cynnal y bwrlwm llenyddol a cherddorol ar lawr gwlad.”

Pam ti di gael dy ddenu i edrych ar hanes diwylliant y Dyffryn?

“Y sbardun i’r cyfan oedd gwneud ymchwil ar gyfer fy nhraethawd hir pan oeddwn yn fy nhrydedd flwyddyn ar ŵr hynod o Dal-y-sarn, Llew Owain. Fe ddois i o hyd i gymaint o wybodaeth a dogfennau amdano, yn archifau, llythyrau ag ati, a sylwi ei fod ef a’i deulu wedi gwneud cyfraniad enfawr i fywyd a diwylliant yr ardal yn ystod eu hoes. Sylweddoli’n fuan wedyn bod yno nifer o bobl arbennig eraill yn greiddiol i’r bywiogrwydd diwylliannol a gafwyd ymhob pentref, a’i bod yn amser rhoi sylw dyledus iddyn nhw a gwerthfawrogi eu cyfraniadau. Yn amlwg, fel merch o’r ardal, mae’r diddordeb personol wedi dylanwadu’n fawr, ac o’r eiliad y gwnes i ddechrau pori ac ymchwilio i hanes y cymdeithasau, y cerddorion, y dramâu, a’r beirdd bro, dwi wedi bod wrth fy modd yn plethu popeth at ei gilydd a darganfod gymaint o bethau diddorol am fro fy mebyd.”

Pa ymchwil ti’n gwneud nesaf? Beth ti’n gwneud rwan?

“Ar hyn o bryd dwi’n gweithio fel Pennaeth Cwricwlwm a Phrosiectau i gwmni cyhoeddi Atebol, ac yn bennaf gyfrifol am ddatblygiad ein hadnoddau addysgol. Mae’n rhaid i mi gyfaddef fy mod yn methu’r holl ymchwilio yn yr archifdai a’r llyfrgelloedd, ac yn gobeithio’n fawr cael troi yn ôl at y gwaith yn fy amser fy hun y flwyddyn nesaf i ddechrau edrych ar bethau na chefais gyfle i roi sylw teilwng iddyn nhw yn y ddoethuriaeth, yn enwedig cerddi’r beirdd bro oedd yma yn ystod y cyfnod. Mae genai restr hir o ymchwil na chefais y cyfle i’w harchwilio’n fanwl! Dwi hefyd yn gobeithio gallu rhannu mwy o ymchwil y ddoethuriaeth gyda phobl Dyffryn Nantlle – gan gychwyn gyda’r ddarlith yma a sgwrs y byddaf yn ei roi ar y Brodyr Francis yng Nghymdeithas Lenyddol Brynrhos, y Groeslon, ym mis Ionawr.”

Un ffaith arall – ti’n aelod y wal goch?!

“Yndw, dwi’n gefnogwr brwd o dîm pêl-droed Cymru, ac yn teithio’n bell ac agos i’w cefnogi nhw yn eu gemau cartref ac oddi-cartref. Bues i’n Slofacia ddechrau mis Hydref, ac rwy’n teithio i Baku yn Azerbaijan ar gyfer y gêm bwysig nesaf ym mis Tachwedd. Y pella dwi wedi bod – hyd yn hyn! – ydi China y llynedd, ar gyfer y ddwy gêm yn Cwpan China yn ninas enfawr Nanning. Yn amlwg dwi wrth fy modd efo’r pêl-droed ei hun, ond mae’r tripiau hefyd yn ffordd gwych o weld dinasoedd a gwledydd gwahanol, a dod i adnabod cefnogwyr eraill o bob cwr o’r wlad.”

Sul, Gwyl a Gwaith: Diwylliant Dyffryn Nantlle yn hanner gyntaf yr Ugeinfed Ganrif. Neuadd Ysgol Dyffryn Nantlle, Nos Iau, Tachwedd 7fed, 7.30.